• Rydych chi yma:
  • Cartref
  • Llongddrylliadau

Creiriau hanesyddol cefn sidan

Creiriau hanesyddol cefn sidan

Dros y canrifoedd mae llu o longau wedi eu dryllio ar draeth Cefn Sidan - yn wir 1668 yw'r cofnod cynharaf. Bellach, "coed... wedi gwynnu a phydru" sy’n ymwthio o’r tywod tua phen gogleddol y traeth yw’r unig dystiolaeth o’r holl longau fu’n hwylio ar hyd y glannau hyn. Mae’r angorau sydd i’w gweld wrth y brif fynedfa i’r traeth hefyd yn tystio i hanes morwrol Cefn Sidan. Leaflets are available at our visitor centre.

Creiriau hanesyddol cefn sidan

Canfyddwyd yr angorau hyn ger terfyn isaf y trai ar Gefn Sidan o fewn 200 metr i'w gilydd. Roedd y cadwynau yn rhedeg ar ongl o 45° i'r lan felly gallwn dybio mai angorau trwm neu flaen oeddent a berthynai i long fu mewn cryn drafferthion. Mae eu pwysau yn dynodi llong a bwysai 1,000 o dunelli o leiaf.

"Dros y canrifoedd mae llu o longau wedi eu dryllio ar draeth Cefn Sidan - yn wir 1668 yw'r cofnod cynharaf."

Creiriau hanesyddol cefn sidan
Creiriau hanesyddol cefn sidan

Roedd llongau, y dull mwyaf effeithlon o gludo nwyddau am flynyddoedd lawer, yn allweddol yn natblygiad ardaloedd arfordirol megis Cydweli, Pen-bre a Llanelli. Gwyddwn fod y môr yn hanfodol ar gyfer cyflenwi nwyddau ac o ran cysylltiadau â’r caerau Rhufeinig yng Nghaerfyrddin a Chasllwchwr. Ar ôl goresgyniad y Normaniaid, daeth Caerfyrddin yn bwysig unwaith yn rhagor i’r diwydiant morwrol. Mewn dogfennau sy’n dyddio o 1287, nodir bod nwyddau’n cael eu cludo trwy gyfrwng pontydd glanio yn Lacharn, Sanclêr, Llanelli, Pen-clawdd a Chasllwchwr. Yn gynnar yn y 13eg ganrif, rhoddwyd trwydded i "Robert o Gydweli", meistr llong, i fasnachu â Gwasgwyn. Mewn pwt sy’n dyddio o 1644, sonnir am long yn cludo ffrwydron rhyfel i Ddinbych-y-pysgod yn ystod y Rhyfel Cartref - "dan warchae gan Gefnogwyr y Senedd, fe’i herlidiwyd gan ffrigad, ond llwyddodd i ddianc i gilfach yn Llanelli".

Mae cofnodion lu ynghylch cludo calchfaen o geiau a phontydd glanio "Pilau Gogledd Goyr", megis Pen-clawdd a Llanmadog, ond glo, "Aur Du" De Cymru chwaraeodd y rhan fwyaf blaenllaw yn natblygiad diwydiant morwrol yr ardal. Yn ei "Itinerary" sy’n dyddio o 1540, mae Leland yn esbonio, "At Llanelthle, a village of Kidwelli Lordship, the inhabitatnts dig coles".

"At 'Llanelthle', a village of Kidwelli Lordship, the inhabitants dig coles"

Rhagor o Ddeunydd Darllen...

Creiriau hanesyddol cefn sidan
Creiriau hanesyddol cefn sidan

Dros y blynyddoedd, rhoddwyd gwahanol enwau i rannau gwahanol o draeth Cefn Sidan, a gwelwyd newidiadau mawr hefyd yn ei gyfuchliniau. Ond waeth beth y bo’i enw na’i siâp, mae gan y darn 8 milltir hwn o draeth hanes morwrol hir a chyfoethog. Bu Cefn Sidan, sy’n edrych allan ar draws Bae Caerfyrddin, yn gysylltiedig â Goyr y Bwyelli Bach. Cyfeirio at drigolion pentrefi bach y cyffiniau y mae’r teitl hwn, a arferai gludo bwyelli ar ffurf bwyelli rhyfel, arfau delfrydol ar gyfer ysbeilio llongau a ddrylliwyd. Yn ystod eu hoes aur, rhwng 1770 ac 1870, mae coel iddynt ddenu llong ar ôl llong i’w thranc er mwyn ysbeilio’r nwyddau a dwyn oddi wrth y criw.

Roedd y dull a ddefnyddient yn un syml. Yn ystod stormydd ac o dan lenni’r nos, dywedir eu bod yn cynnau coelcerthi ar Fynydd Pen-bre. Pan fyddai morwr ar wyliadwriaeth neu gapten y llong yn gweld y goleuadau hyn, fe’u twyllwyd gan gredu eu bod yn dynesu at hafan ddiogel megis porthladd neu harbwr lleol. Fel gwyfynod tua’r fflam, câi llongau eu denu i’r lan, ac unwaith y byddent yn y dor bas, caent eu malurio ar y traeth gan donnau anferth stormydd Môr yr Iwerydd. A dweud y gwir, pe bai capten yn gweld y goleuadau hyn, mae’n go debyg bod ei long mewn helynt mawr eisoes ymhlith y banciau tywod a’r dor bas. Yn ystod stormydd o law, gwynt neu niwl, mae’n amheus a fyddai coelcerthi ar Fynydd Pen-bre i’w gweld o unrhyw bellter mawr.

Llun o’r "Paul" a oedd yn hwylio o Halifax yn Novia Scotia i ddisgwyl am gyfarwyddiadau pendant ynghylch i ba borthladd yn Ne Cymru yr oedd i gludo’i llwyth o goed. Yn anffodus, am 9 diwrnod olaf ei mordaith 27 diwrnod, rhwygwyd un hwyl ar ôl y llall yn chwilfriw gan wyntoedd mawr. Ar y 30aino Hydref, 1925, fe’i cludwyd yn ddiymadferth gan y llif i mewn i Fae Caerfyrddin mewn niwl trwchus a thywyllwch dudew, gan glwydo ar ei gorffwysfan olaf, a elwir bellach yn Bentir Tywyn. Yn ôl pob sôn, mae coed praff o dramor yn rhan o adeiladwaith nifer o dai yn Llansaint a Chydweli!

Heddiw, mae’n anodd cyrraedd ysgerbydau’r llongau sydd ar ôl ar Gefn Sidan. Mae’r rhan fwyaf ohonynt ar ben gogleddol y traeth, a byddai angen cerdded tua 10 milltir i’w gweld. Hefyd, bydd pen gogleddol y traeth yn cael ei gau o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, gan fod maes bomio’r Awyrlu yn cael ei ddefnyddio bryd hynny. Ar ben hynny, o ystyried y ceunentydd a’r banciau tywod peryglus, a llanw sy’n dod i mewn yn gynt nag y gallwch gerdded, ni fyddai ymweld â’r safle hwn yn beth doeth i’w wneud.

Er bod llai ohono ar âl o un flwyddyn i’r llall, mae un ysgerbwd yn gorwedd ond ychydig dros filltir i fyny’r traeth o fynedfa B. Cyhyd ag y bo’r môr dros draean o’r ffordd ar drai, gellir ei gweld yn gorwedd ger grwyn carreg. Daethpwyd o hyd i’r angorau sydd i’w gweld wrth y brif fynedfa i’r traeth wrth y marc distyll isaf o flaen yr ysgerbwd hwn ond nid oes unrhyw brawf bod unrhyw gysylltiad rhyngddynt.

"Bu Cefn Sidan, sy’n edrych allan ar draws Bae Caerfyrddin, yn gysylltiedig â Goyr y Bwyelli Bach"

Creiriau hanesyddol cefn sidan

A wyddech chi?

Mae gan Ben-bre enw o fod yn fath ar Driongl Bermwda gyda llongau o Ffrainc yn dod i ben eu taith ar y traethau hyn - llongddryllwyd yr enwog Le Jeune Emma yno yn 1828 a hithau ar ei thaith o Fartinique i Le Havre gyda'i chargo o rym, siwgr a choffi. Collodd tri ar ddeg o bobl eu bywydau gan gynnwys Lefftenant-Cyrnol Coquelin a'i ferch Adeline, nith Josephine, gwraig Napoleon Bonaparte. Mae ei chofeb a'i bedd yn Eglwys Sant Illtyd a adeiladwyd gyda'i dŵr Normanaidd yn 1066 yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd.

Creiriau hanesyddol cefn sidan
Creiriau hanesyddol cefn sidan

Dod o hyd i ni

Manylion Cyswllt

01554 742424

Parc Gwledig Pen-bre,
Pen-bre, Llanelli,
Sir Gaerfyrddin SA16 0EJ.