Y Ffatri Ordnans Frenhinol, Pen-bre

Y Ffatri Ordnans Frenhinol, Pen-bre

Nid y parcdir godidog a welwch heddiw fu Parc Gwledig Pen-bre erioed. O’r blaen, dyma oedd safle Ffatri Ordnans Frenhinol Pen-bre. Cynigai twyni tywod Pen-bre yr amodau delfrydol i’r gwaith peryglus o greu ffrwydron! Nid yn unig bod y twyni tywod yn sgrin effeithiol, ond roeddynt hefyd yn lleihau unrhyw ddifrod posibl a allai ddigwydd yn sgil ffrwydrad. Nid syndod, felly, i’r ardal ddenu cynhyrchwyr powdwr gwn a dynameit mor gynnar ag 1881.

Ym 1914 y datblygwyd y Ffatri Ordnans Frenhinol ar raddfa fawr. Y flwyddyn honno, daeth Nobel Explosive Company Ltd o Glasgow, a oedd wedi bwriadu cynhyrchu ffrwydron ar raddfa ddiwydiannol i gychwyn, i gytundeb â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel i godi a rheoli ffatri Trinitrotolwen (TNT) ym Mhen-bre. Cytunwyd y dylai’r wladwriaeth dalu holl gost codi’r ffatri, a byddai wedyn yn eiddo i’r Llywodraeth ar ôl y rhyfel, gyda’r Meistri Nobel yn asiantau gweinyddu.

Yn wir, roedd y ffatri hon ym Mhen-bre yn un o dros 200 o ffatrïoedd ffrwydron a agorwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel yn achos y rhan fwyaf, lleihaodd y gwaith yn gyflym wedi i’r rhyfel ddod i ben, a chaewyd y ffatri yn y 1920au. Yn ystod y 1930au, defnyddiwyd yr Adeilad Gweinyddol Canolog yn gartref a chanolfan adfer i blant glowyr di-waith. A’r Ail Ryfel Byd ar gychwyn, ail-agorwyd ac ail-godwyd y ffatri a’i galw’n 'Ffatri Ordnans Frenhinol'.

Alfred Bernhard Nobel

A wyddech chi?

Y cemegydd o Sweden, Alfred Bernhard Nobel, a ddyfeisiodd dynameit (ac ef oedd sylfaenydd Gwobr Nobel). Ei gwmni ef (Nobel Explosive Company Ltd) a adeiladodd y Ffatri Ordnans Frenhinol ym Mhen-bre. Nobel oedd hefyd yn berchen ar Bofors, a gafodd ei droi o gynhyrchu haearn a dur i gynhyrchu canonau ac arfau eraill.
DARLLEN MWY

"Roedd Pen-bre yn un o dros 200 o ffatrïoedd a gynhyrchai ffrwydron"

Y Ffatri Ordnans Frenhinol, Pen-bre
Y Ffatri Ordnans Frenhinol, Pen-bre

Roedd adeiladau’r ffatri wedi’u gosod allan yn ofalus dros ryw 200 hectar o dwyni tywod, ac roedd y swyddfa ganolog, barics yr heddlu, ffreutur, meddygfa, llyfrgell ac adeiladau gweinyddol oll wedi’u gosod gyda’i gilydd ger mynedfa’r ffatri. Mae rhai o’r adeiladau hyn yn dal i sefyll heddiw, yn rhan o’r stad ddiwydiannol sydd wrth ymyl mynedfa’r parc gwledig. Roedd yr adeiladau nitradu, yr arfdai a mannau peryglus eraill wedi’u gwasgaru ymysg y twyni tywod, ar bellter diogel o’r fynedfa. Golygai lleoliad glân-mor y safle bod digonedd o ddeunydd adeiladu rhad ar gael, sef tywod. Yn ychwanegol at dwyni naturiol yr ardal, defnyddiwyd llawer iawn o dywod i ffurfio tomenni artiffisial a bynceri tanddaearol. Nid yn unig yr oedd y rhain o gymorth i guddio’r ffatri rhag y gelyn, ond roeddynt hefyd yn ei hamddiffyn rhag ymosodiad arni, neu ffrwydrad yn y ffatri. Mae llawer o’r tomenni a’r bynceri hyn yn dal i fodoli, ac wedi’u cynnwys yn y dirwedd wrth i’r safle gael ei hadfer.

"defnyddiwyd llawer iawn o dywod i ffurfio tomenni artiffisial a bynceri tanddaearol"

Y Ffatri Ordnans Frenhinol, Pen-bre
Y Ffatri Ordnans Frenhinol, Pen-bre
Y Ffatri Ordnans Frenhinol, Pen-bre

Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i gynllun y safle, gyda storfeydd deunydd crai, gweithfeydd asid ac adeiladau nitradu wedi’u gosod un ar ôl y llall er mwyn i’r deunyddiau allu llifo’n effeithlon ar hyd system reilffordd y ffatri. Mae olion y rheilffordd i’w gweld hyd heddiw, yn enwedig y tu blaen i’r ardal chwarae antur.

Cafwyd dŵr o ddwy afon fach bum milltir i ffwrdd. Crewyd pyllau i dderbyn y dŵr, a chludwyd y dŵr wedyn mewn prif bibell 15 modfedd i bwll isel yn y ffatri. Yno câi’r dŵr ei drin â chemegau, ei hidlo a’i bwmpio i danciau storio uchel, cyn cael ei gludo drwy brif bibellau i bob rhan o’r safle. Yn ddiweddarach, agorwyd nifer o ffynhonnau yn y ffatri. Cynhyrchwyd ager mewn pedair gorsaf ferwi, a gallai’r 33 bwyler gynhyrchu 5 miliwn o bwysi o ager bob dydd. Cynhyrchwyd golau a phŵer trydan yng ngorsaf bŵer y ffatri, lle y gosodwyd saith generadur a allai gynhyrchu 4,300 kw o bŵer.

"Roedd y ffatri yn gwbl hunangynhaliol o ran gwasanaeth, gyda’i pheiriannau ei hun i gynhyrchu trydan."

Y Ffatri Ordnans Frenhinol, Pen-bre
Y Ffatri Ordnans Frenhinol, Pen-bre

Y ffordd i gyrraedd y safle oedd o heol A484 Caerfyrddin i Abertawe, ac wedyn ar hyd heol breifat. Daethai’r rhan fwyaf o’r deunyddiau a’r gweithwyr i’r safle ar drenau, ac roedd y safle wedi’i chysylltu â’r brif linell rhwng Paddington ac Abergwaun.

Nid yw’n syndod y defnyddiwyd cynnyrch prosesau’r ffatri at ddibenion rhyfel. Yn wir, Ffatri Ordnans Frenhinol Pen-bre oedd y ffatri a gynhyrchai’r mwyaf o TNT, amoniwm nitrad a thetryl yn y wlad. Yn ystod 1942, y flwyddyn gynhyrchu fwyaf, roedd 700 tunnell o TNT, 1,000 tunnell o amoniwm nitrad, a 40 tunnell o detryl yn cael eu cynhyrchu bob wythnos. Mewn cyfnod mwy heddychlon, câi TNT ei dynnu’n ofalus o’r ffrwydron a oedd dros ben, a chynhyrchwyd amoniwm nitrad fel gwrtaith amaethyddol. Llosgwyd TNT a oedd yn wastraff ar ddarnau arunig o dywod, ond cafodd rhywfaint ei losgi dan reolaeth i greu 'carbon du' sy’n cael ei ddefnyddio i greu inc peiriannau argraffu.

Y Ffatri Ordnans Frenhinol, Pen-bre

Golwg o’r tu mewn i’r bynceri sydd yn dal i fodoli heddiw!

Parhaodd y gwaith cynhyrchu ar ôl yr Ail Ryfel Byd ar lefel isel, ar wahân i don fwy o gynhyrchu yn y 1950au, adeg Rhyfel Korea. Y prif waith a wnaed yn y ffatri yn 1950au hwyr oedd ymddatod bomiau nad oedd eu hangen mwyach. Yn raddol, lleihaodd y gweithlu o 3,000 ar ei frig ym 1942 i lai na 400 ym 1961. Cyhoeddwyd yn ffurfiol y câi’r ffatri ei chau yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Ebrill 1962 ar argymhelliad Pwyllgor Adolygu Ffatrïoedd Ordnans Brenhinol. Clowyd drysau’r ffatri yn derfynol ym mis Mawrth 1965.

Yn y 1970au, trosglwyddwyd safle’r ffatri i ofal yr awdurdod lleol (Cyngor Bwrdeistref Llanelli), a dechreuwyd ar y gwaith llafurus o drawsnewid yr ardal i fod yn barc a chyfleuster glan-môr hardd fel a welwch heddiw. Sefydlwyd Cyngor Sir Caerfyrddin ym 1996, a dyma’r awdurdod sydd bellach yn parhau â’r ymrwymiad i ddarparu un o atyniadau gydol y flwyddyn gorau Cymru i drigolion lleol ac ymwelwyr.

"Yn ystod 1942, y flwyddyn gynhyrchu fwyaf, roedd 700 tunnell o TNT yn cael ei gynhyrchu bob wythnos"

ROF old layout

Cynllun y ffatri wreiddiol

Rhwydwaith o linellau rheilffordd a bynceri, a rhai’n dal i fodoli heddiw.
LAWRLWYTHO PDF

Rhagor o Ddeunydd Darllen...

Dod o hyd i ni

Manylion Cyswllt

01554 742424

Parc Gwledig Pen-bre,
Pen-bre, Llanelli,
Sir Gaerfyrddin SA16 0EJ.